Arad Consulting
Unit 8, Enterprise House
126 Bute Street
Cardiff Bay
CF10 5LE

029 2044 0552
e-mail

 

Ein Dull o Weithio

Rydym yn gweithio ar y sail fod yn rhaid wrth wreiddioldeb gwirioneddol, dadansoddiad creadigol a ffresni wrth mynd i'r afael â bob prosiect a ddaw i'n rhan. Rydym yn cyd-weithio'n agos â chleientau er mwyn deall eu hangenion yn iawn ac yn gwneud defnydd llawn o wybodaeth ac atebolrwydd lleol tra'n cynnig perspectif rhyngwladol yn ogystal. Rydym hefyd yn cyfuno arweinyddiaeth dddeinamig a chreadigol a sgiliau gweithredu da a'r gallu i feddwl yn ochrol, yn ddychmygus ac yn arloesol. Trwy ein gwaith ar brosiectau, mae Arad hefyd yn chwilio am ffyrdd i ddatblygu dulliau newydd o drefnu, casglu gwybodaeth a denu talent newydd.

Yr Uned Ymchwil a Pholisi a'r Uned Ddata a Dadansoddi Economaidd

Mae ein tim ymroddgar yn cynnig gwasanaethau ymgynghori o fewn dwy uned, yr Uned Ymchwil a pholisi a'r Uned Ddata a Dadansoddi Economaidd Mae'r unedau gwahanol ond cyflenwol yma yn cyfuno ystod eang o sgiliau a chryfderau ein hymgynghorwyr ac felly yn eu galluogi i gynnig gwasanaeth o'r radd flaenaf a'r safon orau yn unol a'r hyn a ddisgwylir gan ein cleientiaid.

Yr Uned Ddata a Dadansoddi Economaidd

  • Dadansoddi econometrig
  • Modelu economaidd
  • Dadansoddi data
  • Proffilio economaidd-gymdeithasol
  • Dylunio a dadansoddi arolygon

Yr Uned Ymchwil a Pholisi

  • Ymchwilio
  • Gwerthuso
  • Datblygu strategaeth
  • Rheoli prosiectau
  • Argymhellion polisi

Mae ymgynghorwyr Arad yn gweithio ar draws ystod o feysydd polisi, yn cynnwys:

  • Datblygu economaidd lleol a rhanbarthol
  • Addysg, hyfforddiant a sgiliau
  • Ymchwil a datblygu ym maes cystadleugarwch gwybodaeth
  • Gwasnaethau busnes ac entrepreneuriaeth
  • Iaith, diwylliant a'r cyfryngau
  • Cyflogaeth a chynhwyso cymdeithasol
  • Datblygiad gwledig
  • Twristiaeth

 

 
 
© Arad Consulting 2006