Ein Dull o Weithio
Rydym yn gweithio ar y sail fod yn rhaid wrth wreiddioldeb gwirioneddol, dadansoddiad creadigol a ffresni wrth mynd i'r afael â bob prosiect a ddaw i'n rhan. Rydym yn cyd-weithio'n agos â chleientau er mwyn deall eu hangenion yn iawn ac yn gwneud defnydd llawn o wybodaeth ac atebolrwydd lleol tra'n cynnig perspectif rhyngwladol yn ogystal. Rydym hefyd yn cyfuno arweinyddiaeth ddeinamig a chreadigol a sgiliau gweithredu da a'r gallu i feddwl yn ochrol, yn ddychmygus ac yn arloesol. Trwy ein gwaith ar brosiectau, mae Arad hefyd yn chwilio am ffyrdd i ddatblygu dulliau newydd o drefnu, casglu gwybodaeth a denu talent newydd.
Mae ein tim ymroddgar yn cynnig gwasanaethau ymgynghori o fewn dwy uned, yr Uned Ymchwil a pholisi a'r Uned Ddata a Dadansoddi Economaidd Mae'r unedau gwahanol ond cyflenwol yma yn cyfuno ystod eang o sgiliau a chryfderau ein hymgynghorwyr ac felly yn eu galluogi i gynnig gwasanaeth o'r radd flaenaf a'r safon orau yn unol a'r hyn a ddisgwylir gan ein cleientiaid.
/Yr Uned Ddata a Dadansoddi Economaidd
Yn canolbwyntio ar...
- Dadansoddi econometrig
- Modelu economaidd
- Dadansoddi data
- Proffilio economaidd-gymdeithasol
- Dylunio a dadansoddi arolygon
/Yr Uned Ymchwil a Pholisi
Yn canolbwyntio ar...
- Ymchwilio
- Gwerthuso
- Datblygu strategaeth
- Rheoli prosiectau
- Argymhellion polisi
- Astudiaethau dichonolrwydd