Stuart
Harries
Mae
Stuart Harries yn ymchwilydd ac yn ddadansoddwr economaidd
gyda phrofiad eang o weithio fel Ymgynghorydd Datblygiad
Economaidd. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf mae Stuart
wedi cyfrannu at ddatblygu rhestr sylweddol o gleientiaid
ar draws Cymru, y Deyrnas Unedig ac Ewrop.
Mae
Stuart wedi arwain nifer o astudiaethau datblygu strategaeth
ac adolygiadau gan gynnwys, yn ddiweddar datblygu
Strategaeth Datblygu Economaidd Gorllewin LLundain
ar ran Partneriaeth Gorllewin Llundain.
Yn
ystod y tair mlynedd ddiwethaf mae hefyd wedi arwain
nifer o astudiaethau dadansoddi a phroffilio mewn
nifer o awdurdodau lleol gan gynnwys Rhondda Cynon
Taf, Sir Gaerfyrddin a Peterborough and the Fens.
Mae
Stuart hefyd wedi cyfarwyddo nifer o astudiaethau
effaith economaidd gan gynnwys effaith economaidd
datblygu'r marina ym Mhwllheli a'r diwydiant twristiaeth
antur yng Ngogledd Cymru. Yn 2003 cwblhaodd Stuart
astudiaeth ar ran Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn asesu'r
effaith economaidd posib a'r cyfleoedd busnes a ddaw
o ddatblygu economi amgylcheddol a ddylanwadir gan
weithredu polisiau a chyfarwyddiadau amgylcheddol
yr Undeb Ewropeaidd; a sut yn eu tro y byddai'r cyfleoedd
yma yn dylanwadu ar bolisiau datblygu economaidd ar
draws yn DU.
Ym
maes economeg llafur a datblygiad yr economi sgiliau
mae prif ddiddordeb ac arbenigedd Stuart ac yn ddiweddar
fe gyhoeddodd bapur yn yr European Journal of Education
yn dwyn y pennawd "The Skills Economy and Workforce
Development: a regional approach to policy intervention".
Yn ddiweddar mae hefyd wedi arwain gwerthusiad o'r cynllun
peilot 'Y gweithiwr sy'n Dysgu' ar ran y Cynulliad Cenedlaethol
ac wedi cwblhau astudiaeth datblygiad gweithlu sylweddol
ar ran yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol. Mae Stuart hefyd
wedi ymgymryd a nifer o astudiaethau'r farchnad lafur
sectorol ar gyfer cleientau megis Cyngor Gofal Cymru,
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Asiantaeth Datblygu East
Midlands a'r Sefydlaid Ewropeaidd. Mae hefyd wedi arwain
nifer o astudiaethau yn ymchwilio i'r cyfleoedd a'r
angen i weithredu polisiau datblygu sgiliau yn ol y
galw oddi fewn i awdurdodau lleol.