Sioned
Lewis
Mae
Sioned Lewis yn ymgynghorydd profiadol gyda chefndir
cryf mewn sgiliau a methodoleg ymchwil. Mae wedi arwain
amryw aseiniadau ar ran nifer o gleientiaid sector
cyhoeddus gan gynnwys Awdurdod Datblygu Cymru, Y Gronfa
Loteri Fawr a'r Cynulliad Cenedlaethol.
Mae
profiad Sioned o fewn meysydd gwerthuso rhaglenni
yn ei gwneud yn aelod amhrisiadwy o dim Arad. Yn ystod
2003-2004 fe fu'n gyfrifol am gyd-lynu gwerthusiad
dwy flynedd o gynllun peilot datblygu'r gweithlu ar
ran y Cynulliad Cenedlaethol, yn rheoli arolygon cyfranogwyr,
cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a llunwyr polisi.
Mae hefyd yn gweithio ar waith gwerthuso sy'n cynnwys
cefnogi hunan werthuso cynlluniau a ariannir gan y
Gronfa Loteri Fawr; gwerthuso cynllun croeso a ariannir
gan yr ESF ar ran ELWa, adolygu dylanwad gweithio
mewn partneriaeth o fewn gwasanaethau plant a ieuenctid
ar ran awdurdod lleol; gwerthuso cefnogaeth cyn cychwyn
busnes ar ran Awdurdod Datblygu Cymru a gwerthusiad
o raglen cefnogi SME Amcan 2 ar ran Ysgol Fusnes Caerdydd.
Mae
gan Sioned hefyd gyfoeth o brofiad o fewn maes adfywio
cymunedol, eithrio cymdeithasol a datblygiad gwledig
ac mae wedi paratoi asesiadau anghenion cymunedol
ac adolygiadau adfywio cymunedol. Bu'n rheoli astudiaeth
eang o gymunedau cytbwys eu hoed yn ddiweddar ar ran
Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol a arweiniodd
at wneud argymhellion polisi i'r Cynulliad a'r cabinet.
Cyn
cychwyn ei gyrfa fel Ymgynghorydd Datblygu Economaidd,
bu Sioned yn gweithio fel ymchwilydd cymdeithasol i
Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae ganddi radd mewn Daearyddiaeth
a gradd uwch mewn Datblygu Rhanbarthol o Brifysgol Durham.