Arad Consulting
Enterprise House
126 Bute Street
Cardiff Bay
CF10 5LE

029 2044 0552
e-mail

 

Martin Jones

Cyn gweithio fel Ymgynghorydd Arad, fe dreuliodd Martin dros flwyddyn fel Prif Ymgynghorydd gyda chwmni Newidiem ar ôl cyfnod o weithio ym Mrwsel ar astudiaeth Dylanwad Tiriogaethol Ymchwil a Datblygu yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae wedi treulio dros deng mlynedd yn gweithio ym meysydd Cystadleuaeth Gwybodaeth, Ymchwil a Datblygu, Addysg ac Hyfforddiant ac mae ganddo hanes llwyddiannus o weithio ym meysydd materion Ewropeaidd a datblygiad economaidd a rhanbarthol.

Mae ei bortffolio presennol o brosiectau yn cynnwys rheoli prosiect ar ran DG Research o''r Comisiwn Ewropeaid yn dwyn y teitl 'Prifysgolion yn gweithredu fel hybwyr gwybodaeth mewn ardaloedd llai breintiedig o'r UE', ac 'Adolygiad Strategol o'r Ddarpariaeth Ieithoedd Dramor modern mewn sefydliadau addysg uwch yng ar ran Cyngor Cyllido Addysg Uwch yng Nghymru a Galw ac angen am lafur yn y sector gofal cymdeithasol yn yr UE' ar ran Sefydliad Ewropeaidd amodau by a gwaith. Mae Martin hefyd wedi gweithio ar gyngyrchu Indecs Cystadleugarwch Europeaidd ac astudiaeth gymharol o bolisiau rhanbarthol arloesol yr Undeb Ewropeaidd gan gydweithio a Phrifysgol Valencia.

Cychwynodd ei yrfa drwy weithio am ddwy flynedd yn DG Addysg ac Hyfforddiant y Comisiwn Ewropeaidd ym Mrwsel fel ran o'r tim craidd ar y Menter Celf Addysg ac Hyfforddiant. Treuliodd ddwy flynedd pellach ym Mrwsel yn gweithio fel ymgynghorydd annibynol yn rheoli dau brosiect SOCRATES addysgu gydol oes. Treuliodd hefyd dair blynedd fel ymgynghorydd gyda EUCLID International yn gweithio yng Nghymru a Brwsel ar ran sefydliadau megis Y Comisin Ewropeaidd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru ar amrywiaeth o brosiectau addysg uwch ac ymchwil a datblygu. Mae'n siarad Ffrangeg a Sbaeneg.
 
 
© Arad Consulting 2006