Arad Consulting
Enterprise House
126 Bute Street
Cardiff Bay
CF10 5LE

029 2044 0552
e-mail

 

Jonathan Day

Jonathan yw Uwch-Economegydd Arad ac mae'n meddu ar sgiliau ymchwil a dadansoddi data eang. Mae ganddo gyfoeth o brofiad mewn datblygu a diweddaru strategaethau datblygiad economaidd rhanbarthol ac is-ranbarthol gan gynnwys, yn fwyaf diweddar Eastbourne & Hailsham, Rhondda Cynon Taf a Peterborough and the Fens. Mae Jonathan hefyd wedi arwain nifer o astudiaethau amlwg gan gynnwys datblygu dangosyddion cyfansawdd yn seiliedig ar fodelau monitro a rhagolygu economaidd. Mae ei gleientau diweddar yn cynnwys Asiantaeth Datblygu Llundain, y Comisiwn Ewropeaidd, Asiantaeth Datblygu De Ddwyrian Lloegr, a Llywodraeth Alberta.

Mae gan Jonathan y sgiliau perthnasol i ymgymryd ag ymchwil allweddol dadansoddi data a dehongli ar brosiectau ymgynghori datblygu economaidd. Mae'n gyfrannwr allweddol i'r Gyfres Cystadleugarwch y DU, cyfres o adroddiadau a baratowyd er mwyn canfod cystadleugarwch Y DU, ei rhanbarthau a'i hardaloedd lleol yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol. Mae Jonathan hefyd wedi ysgrifennu deunydd adolygu megis Strategaeth Cenedlaethol Datblygu Economaidd I Gymru.

Yn ystod y dair blynedd ddiwethaf mae Jonathan wedi ymgymryd ag amryiwiaeth o brosiectau gan gynnwys dwy astudaieth ar ran Asiantaeth Datblygu Llundain yn archwilio'r diwydiannau creadigol yn Llundain. Roedd y cyntaf yn amlinellu deg is-adran o fewn y diwydiant creadigol yn Llundain tra bo'r ail yn datblygu cyfres o sefyllfaoedd yn dangos datblygiad posib y diwydiannau creadigol yn Llundain. Mae Jonathan hefyd wedi arwain ymchwil i'r modd mae sefydliadau spin-out Addysg Uwch Llundain yn cael eu hariannu ar lefel ?. Darganfyddwyd y prif gyfyngiadau i ddatblygu busnesau uwch-dechnoleg yn sgil masnacheiddio ymchwil o fewn prifysgolion yn yr astudiaeth yma.

Cyn dod i weithio fel ymgynghoryd ym maes Datblygu Economaidd bu Jonathan yn gweithio i'r Trysorlys fel rhan o dim rheoli Dyled a Chronfeydd. Roedd ei waith yn cynnwys paratoi rhagolygon, dadansoddi data economaidd a chyd-weithio a darparwyr gwasanaethau eraill yn ogystal a dadansoddi data yn Swyddfa Rheoli Dyled y DU.
 
 
© Arad Consulting 2006