Arad Consulting
Enterprise House
126 Bute Street
Cardiff Bay
CF10 5LE

029 2044 0552
e-mail

 

Hefin Thomas

Mae Hefin yn economegydd ac mae ganddo gyfoeth o arbenigedd polisi ac ymchwil. Gydag arbennigedd mewn dadansoddi ansoddol a meintiol, mae Hefin wedi ymgymryd ag ystod eang o brosiectau gan gynnwys astudiaethau marchnad llafur, adolygiadau economaidd, datblygu polisi a dadansoddi ystadegol ar lefel lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae ei waith diweddar yn cynnwys adolygiadau strategaethau economaidd yn Rhondda Cynon Taf a Phenybont, dadansoddiad o dyfiant economaidd yn Ne Ddwyrain Lloegr a gwerthusiad o brosiect datblygu'r gweithlu ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Fel un a raddiodd o Ysgol Economeg Llundain (LSE) mae Hefin yn cynnig ystod o sgiliau i dim Arad ym meysydd Datblygiad Economaidd a pholisi cymdeithasol. Mae'n gyfathrebwr medrus ac yn medru cyfuno profiad o ddadansoddi ystadegol a sgiliau ymchwil polisi gan ddwyn arddull cyfannol i waith prosiect. Mae'r cyfuniad yma o sgiliau yn ei wneud yn gyfrannwr allweddol i brosiectau'n modelu tueddiadau twf sector benodol ar lefel byd eang, cenedlaethol a rhanbarthol. Mae ei gefndir yn rhoi iddo ddealtwriaeth wych o bolisi datblygiad economaidd rhanbarthol oddi fewn i gyd destun byd-eang.

Mae gan Hefin hefyd brofiad sylweddol ym maes datblygu polisi yn dilyn ei gyfnod o weithio fel ymchwilydd ar Ddatblygiad Economaidd a Chyllid yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru am ddwy flynedd. Yn ystod y cyfnod yma bu Hefin yn briffio Aelodau Cynulliad yn uniongyrchol ac yn cyd-weithio'n agos gydad aelodau o Bwyllgor Monitro Rhaglen Amcan 1.
 
 
© Arad Consulting 2006