Arad Consulting
Enterprise House
126 Bute Street
Cardiff Bay
CF10 5LE

029 2044 0552
e-mail

 

Brett Duggan

Mae Brett wedi datblygu profiad eang o ymchwilio, adolygu a gwerthuso polisiau ar draws nifer o feysydd yng Nghymru ac ar lefel Ewropeaidd. Ers ymuno a'r cwmni yn 2003 mae wedi sefydlu ei hun fel ymchwilydd a dadansoddwr craff ym maes addysg ac hyfforddiant ac ym meysydd y farchnad llafur a sgiliau.

Mae wedi rheoli astudiaethau dichonoldeb a datblygiad polisi ar ran sefydliadau yn y sector gyhoeddus, gan gynnwys Asiantaeth Datblygu East Midlands a'r Cyngor Ariannu Addysg Uwch yng Nghymru. Mae hefyd wedi gweithio ar adolygu strategaethau datblygu economaidd ar ran awdurdodau lleol yng Nghymru, gan gynnwys Rhondda Cynon Taf a Blaenau Gwent.

Mae Brett yn medru Ffrangeg ac Eidaleg yn rhugl ac mae wedi ymgymryd â gwaith ymgynghori ar draws Ewrop yn cynnwys prosiect yn astudio y system Ffrengig o Ddilysu Profiad Blaenorol o dan rhaglen Leonardo. Yn ystod 2004 fe arweiniodd gwaith ymchwil ar brosiect aml-wladol arall o dan y cynllun 'Rhanbarthau gwybodaeth' sydd newydd ei sefydlu. Mae'r cynllun yma yn archwilio'r modd mae prifysgolion yn gweithredu fel hybwyr gwybodaeth yn rhanbarthau llai ffafriol Ewrop.

Bu Brett yn gweithio am bedair blynedd fel ymchwilydd polisi yn y Cynulliad Cenedlaethol, gan arwain tim oedd yn gyfrifol am ymateb i ddogfennau ymgynghori'r llywodraeth, ac am asesu dylanwad deddfwriaeth newydd ar draws amrywiol haenau llywodraeth.

 
 
© Arad Consulting 2006